Mae Cymdeithas Clefyd Motor Niwron yn cyhoeddi eu Maniffesto cyn etholiadau Senedd Cymru 2026
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Cymdeithas Clefyd Motor Niwron y Maniffesto MND i Gymru: 2026 a thu hwnt.
Yn seiliedig ar adborth gan y gymuned MND, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol eraill, mae Maniffesto MND i Gymru wedi nodi 5 maes allweddol i ganolbwyntio arnynt gyda’r nod o wella bywydau pobl sy’n byw gydag MND yng Nghymru.
- Darpariaeth iechyd a gofal cyffredinol ledled Cymru
- Tai diogel a hygyrch
- Cefnogi gofalwyr MND
- Hyrwyddo ymchwil MND
- Newid y dirwedd wleidyddol yng Nghymru
Rydym yn annog pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i ymrwymo i’n ceisiadau i’n helpu i gyflawni Cymru lle mae modd trin MND a lle y gellir ei wella, a lle gall pawb gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.
Darllenwch y maniffesto llawn yma neu’r fersiwn ber yma.