Image MND Association speaking at the Senedd.

Etholiad Seneddol 2026: Amser i MND 

Cynhelir etholiad y Senedd yng Nghymru ar 7 Mai 2026 a mae'n cynrychioli newid gwleidyddol sylweddol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Senedd yn rheoli Cymru mewn materion polisi datganoledig, fel y GIG, o’r Senedd gan ei wneud yn ffocws pwysig i bobl sy'n byw gydag MND yng Nghymru. Wrth i'r Senedd ehangu o 60 i 96 o aelodau Seneddol, llawer ohonynt yn newydd i'r Senedd, mae hwn yn gyfle gwych i ni addysgu am anghenion pobl gyda MND a gofyn iddynt wneud Amser i MND os etholwyd.  

Bydd ein hymgyrch Amser I MND yn lansio yn 2026 cynnar a byddwn yn gweithio i dynnu sylw at anghenion pobl gyda'r cyflwr dinistriol hyn yn y gobaith y bydd ymgeiswyr i’r Senedd yn gwneud amser ar gyfer y gymuned MND.  

Bydd yr ymgyrch hon yn seiliedig ar yr egwyddorion a'r pum gofyniad allweddol a gyflwynwyd yn ein Maniffesto etholiad Seneddol 2026.

  1. Darpariaeth iechyd a gofal cyffredinol ledled Cymru
  2. Tai diogel a hygyrch
  3. Cefnogi gofalwyr MND
  4. Hyrwyddo ymchwil MND
  5. Newid y dirwedd wleidyddol yng Nghymru 

Hoffwn annog pob ymgeisydd yn etholiad y Senedd i wneud Amser I MND yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ac yn y tymor Seneddol sy’n dilyn. Y pump gofyniad allweddol uchod yw'r achosion rydyn ni’n credu sy’n bwysicaf i wella bywydau pobl sy'n byw gydag MND a gobeithio byddwn yn cael ystyriaeth deg ac amser gan y Senedd nesaf fel y gallwn helpu i wella bywydau pawb yng Nghymru gyda MND. 

Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth a diweddariadau wrth i ni baratoi'r ymgyrch hon ac yn ystod yr etholiad. Os hoffech chi gymryd rhan neu derbyn diweddariadau, cofrestrwch ar gyfer Rhwydwaith Ymgyrch MND sydd wedi'i atodi isod. Gallwch ymuno am ddim a bydd unrhyw faint o gymorth a roddir yn cael ei werthfawrogi'n fawr.