Cyfri i lawr i etholiadau'r Senedd 2026
Ym mis Chwefror, fe wnaethon ni yng Nghymdeithas Clefyd MND lansio ein ymgyrch Amser i MND. Rydym yn gofyn i ymgeiswyr y Senedd fwrw ymlaen â'r gofynion o'n Maniffesto MND i Gymru: 2026 a thu hwnt.
Yn seiliedig ar adborth gan y gymuned MND, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol eraill, mae Maniffesto MND i Gymru wedi nodi 5 maes allweddol i ganolbwyntio arnynt gyda’r nod o wella bywydau pobl sy’n byw gydag MND yng Nghymru.
- Darpariaeth iechyd a gofal cyffredinol ledled Cymru
- Tai diogel a hygyrch
- Cefnogi gofalwyr MND
- Hyrwyddo ymchwil MND
- Newid y dirwedd wleidyddol yng Nghymru
Rydym yn annog pob plaid wleidyddol a phob ymgeisydd i ymrwymo i’n ceisiadau i’n helpu i gyflawni Cymru lle mae modd trin MND a lle y gellir ei wella, a lle gall pawb gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt pan fydd ei angen arnynt.