Adapt Now - Welsh Homes for MND Logo

Rydym yn galw ar Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gan bobol ag MND gartrefi diogel a hygyrch

Cliciwch yma i ddarllen y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.

Dangosodd ein hymgyrch Act to Adapt fod pobl ag MND yn mynd yn gaeth i’w cartrefi anhygyrch am nad ydynt yn gallu fforddio, neu’n methu cael cymorth ar gyfer, addasiadau angenrheidiol.

Mae rhai pobl ag MND wedi marw tra’n aros i addasiadau gael eu gwneud ac mae’r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa mewn sawl achos.

Welsh Homes for MND campaign asks Welsh version

Rydym yn gofyn i Llywodraeth Cymru i gweithredu gan

  • Sicrhau bod gan awdurdodau lleol broses dryloyw a gyflym ar gyfer addasiadau i bobol sydd gydag MND.
  • Adrodd ar osod addasiadau yn brydlon – fel y nodir yn eu Safonau Gwasanaeth Addasiadau i Dai.
Y stori hyd yn hyn
  • Mis Ionawr 2021: cyhoeddwn ein Manifesto I Gymru, yn cynnwys cynigion ar gwella system addasiadau tai a polisiau. Darllenwch y Fersiwn Cymraeg neu Fersiwm Saesneg am manylion bellach.
  • Mis Mawrth: yn dilyn dadl ar MND a cwestiynnau yn y Senedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru cyhoeddi o Mis Ebrill eu fod yn tynnu allan prawf modd ar gyfer addasiadau bach a canolig trwy Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae hyn yn llwyddiant i bobol gydag MND yng Nghymru.
  • Mis Mai: yn anhygoel, fe wnaeth 74 o ymgeusydd seneddol o pump plaid wleidyddol cefnogi ein cynnigion addasiadau tai.
  • Mis Mehefin: Fe wnaeth 11 o aelodau seneddol mymychu, neu eu cynrychioli, yn ein digwyddiad rhithwir Cartrefi Cymru ar gyfer MND. Clywsant yn uniongyrchol gan pobol sydd wedi’i effeithio gan MND a’r proffesiynwyr am pam mae proses gyflym ar gyfer addasiadau tai yn anghenrheidiol.
  • Nawr: rydym yn parhau i ymgyrchu am ein cynigion addasiadau tai I’w fabwysiadu gan Llywodraeth Cymru.
Beth nesaf?

Dros yr haf rydym yn casglu rhagor o tystiolaeth i perswadio y rhai sy’n gwneud penderfyniadau bod angen newid. Fe fyddwn yn dod a’n canfyddiadau o flaen aelodau Seneddol mewn digwyddiad yn yr Hydref.

Os hoffech perswadio’ch aelod Seneddol i mynychu’r digwyddiad, cysylltwch a ni am mwy of wybodaeth.

Adroddiad Cartrefi Cymru ar gyfer MND

Adnoddau ymgyrch

Lawrlwytho delweddau ymgyrch i lledaenu’r gair ar gyfryngau cymdeithasol

Edrychwch ar ein canllaw in MND ar gyfer aelodau Senedd Cymru hefyd

Yn yr Etholiad Seneddol wnaeth 74 ymgeusydd dros 5 plaid gwleidyddol addewid i cefnogi ein cynigion.Mae naw wedi eu hetholi ac rydym yn edrych ymlaen at gweithio gyda nhw I fod yn pleidiwr I fobol sydd weid'I heffeithio gan MND yng Nghymru

Mae’r cynigion hyn yn ffurfio rhan o’n Maniffesto ar gyfer Cymru 2021, sydd hefyd yn cynnwys cynigion ar wasanaethau niwrolegol, Gofal Iechyd Parhaus y GIG a chymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Os ydych chi am gysylltu a tim yr ymgyrchoedd I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y botwm isod.

Botwm Cysylltwch â ni?